Newyddion
Cyfryngau cymdeithasol
Rheolydd Sistema Cymru - Codi'r To
Rydym yn dymuno penodi person brwdfrydig a threfnus iawn i arwain y prosiect cyffrous hwn yng Ngwynedd.
Mae Codi’r To yn brosiect adfywio cymunedol gyda’r nod o ddefnyddio cerddoriaeth fel ffordd o wella bywydau unigolion a chymunedau. Gan ddilyn y dull El Sistema byd-enwog, bwriad y prosiect yw ysbrydoli a bod yn weddnewidiol i blant, teuluoedd, ysgolion a chymunedau, gan godi disgwyliadau a gwella cyfleoedd bywyd, yn arbennig felly cyfleoedd plant difreintiedig a’r rhai sy'n tangyflawni’n addysgiadol.
Mae’r prosiect yn gweithio gydag Ysgol Maesincla, Caernarfon ac Ysgol Glancegin, Bangor a chymunedau o gwmpas y ddwy ysgol i ddarparu profiadau cerddorol a thiwtora offerynnol. Mae pob disgybl yn y ddwy ysgol yn derbyn gwersi cerddoriaeth yn wythnosol ac mae’r tîm o diwtoriaid hefyd yn cynnig cyfleoedd ychwanegol ar ôl ysgol, yn ystod gwyliau ysgol, a gweithdai cymunedol gyda theuluoedd a’r gymdogaeth o amgylch yr ysgolion.
Swydd Y Rheolydd
Bydd y Rheolydd yn gyfrifol am dîm o staff, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Cerdd, Tiwtoriaid Cerdd a Chydlynydd Prosiectau.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol i’r swydd o gydgordio’r prosiect a bod yn brif gyswllt rhwng y tiwtoriaid cerdd, yr ysgolion, arianwyr, gwirfoddolwyr a Bwrdd Ymddiriedolwyr Codi’r To.
Oriau: 28 awr yr wythnos
Lleoliad: Caernarfon yn arferol
Cyflog: rhwng £28,000 - £35,000 pro rata yn ddibynnol ar brofiad yr unigolyn
Ceisiadau trwy lythyr gan gynnwys CV ynghŷd ag enw dau unigolyn all gyflwyno geirda erbyn 12:00 ganol dydd, 1af o Ragfyr 2023. Am swydd-ddisgrifiad, rhagor o fanylion neu i yrru eich cais atom, ebostiwch carys@codirto.com neu drwy’r post i:
Sistema Cymru – Codi’r To
Canolfan Noddfa
Cil Peblig,
Caernarfon
Gwynedd
LL55 2RS
Disgwylir cynnal y cyfweliadau yng Nghaernarfon yn yr wythnos yn cychwyn 4ydd o Ragfyr.
Swydd Ddisgrifiad (PDF)
Codi’r To: El Sistema in Wales, and in Welsh
Cliciwch yma i darllen erthygl Codi’r To: El Sistema in Wales, and in Welsh
gan Carys Bowen, Coordinator, Sistema Cymru
Tudalen Local Giving Codi'r To - cliciwch yma
Adroddiad ymchwil gan Brifysgol Bangor am fuddion prosiect Codi’r To
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad
Gwefan Prifysgol Bangor - cliciwch yma
BBC Cymru Fyw - cliciwch yma
Penblwydd Hapus Codi'r To yn 3 Oed Fideos Ysgol Maesincla yn Galeri 28.03.17 Cliciwch yma i weld mwy o fideos Lluniau Maesincla ac Glancegin Cliciwch yma i weld mwy o lluniau |
Cyngerdd 3ydd Pen-blwydd gyda disgyblion Codi'r To Ysgol Maesincla Galeri, Caernarfon - 28.03.17 - 7 y.h Tocynnau £5 Gostyngiadau £2 Tocynnau o Galeri 01286 685222 Cliciwch yma i weld mwy |
Cyngerdd 3ydd Pen-blwydd gyda disgyblion Codi'r To Ysgol Glancegin Pontio, Bangor - 16.03.17 - 7 y.h Tocynnau £5 Gostyngiadau £2 Tocynnau o Pontio 01248 382828 Cliciwch yma i weld mwy |
Disgyblion yn ‘Codi’r To’ wrth ymweld â’r Senedd Yn ddiweddar, bu disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Maesincla, Caernarfon a disgyblion Blwyddyn 5 Ysgol Glancegin, Bangor yn ‘codi’r to’ yn ninas Caerdydd gyda pherfformiad cerddorol arbennig yng nghyntedd y Senedd. Cliciwch yma i ddarllen gweddill y stori. Cliciwch yma i weld mwy o luniau. |
|