Staff

 

Bari GwilliamMagwyd Bari yn Llanddona ger Beaumaris, Ynys Môn. Mae Bari wedi mwynhau’r Corned a’r Trwmped ers cychwyn chwarae yn 5 mlwydd oed, gan chwarae gyda Band Pres Beaumaris. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol David Hughes a dros y blynyddoedd fe enillodd nifer o wobrau mewn cystadlaethau lleol a chenedlaethol.

Fe raddiodd o Ysgol Gerdd Prifysgol Huddersfield gyda anrhydedd yn 1999, yn ystod ei amser yn Swydd Efrog chwaraeodd Bari gyda rhai o’r Bandiau Pres gorau yn y byd gan gynnwys Band Pres y Black Dyke, Brighouse and Rastrictk, Fodens, Carlton Main a Band y Cory. Ar y pegwn arall mae Bari wedi perfformio ac yn parhau i chwarae gyda nifer o fandiau roc/pop amlycaf Cymru a Lloegr, Anweledig, Gai Toms, Geraint Lovgreen a The Beautiful South i enwi ond rhai.

Yn ystod ei yrfa mae Bari wedi perfformio ar rhai o’r llwyfannau mwyaf ym Mhrydain Fawr fel y Bridgewater Hall, Symphony Hall, Sage, Albert Hall ac wedi cael y fraint o rannu llwyfan gyda enwogion fel Bryn Terfel, Sian Cothi, Gwyn Hughes Jones, Clare Teale, Derek Watkins, Tony Fisher, Rhydian a The Proclaimers.

Mae Bari wedi bod yn gweithio yn y byd addysg ers 1999 ac wedi dysgu yn Bradford fel athro Cerdd, Ysgol Brynrefail fel Pennaeth Cerdd a Ysgol Gyfun Llangefni fel Pennaeth Blwyddyn a Phennaeth Cerdd.

Mae Bari hefyd yn aelod o Fand Pres Llareggub ac wedi teithio ar draws Ewrop ac America.  Gweddill ei amser yn yr wythnos mae Bari yn ymgynghorydd Cerdd ac yn gweithio ar draws Ysgolion Cynradd Gogledd Cymru yn hyfforddi athrawon yn y maes Creadigol sydd ynglhwm a’r Cwricwlwm Newydd.

Ers ymuno â thim Codi’r To yn Ionawr 2014 mae Bari wedi ei argyhoeddi fod Codi’r To yn brosiect gwerthfawr iawn ac bod y defnydd o gerddoriaeth i ddatblygu sgiliau bywyd unigolion a dod â chymuned at ei gilydd yn effeithiol dros ben.

BerwynYn wreiddiol o Fethel, mae Berwyn bellach yn byw yng Nghaernarfon, o fewn golwg o Ysgol Maesincla. Fe raddiodd Berwyn o ysgol gerdd Prifysgol Bangor, gyda gradd meistr mewn cyfansoddi.

Mae’n chwarae’r trwmped ers iddo fod yn yr ysgol gynradd, lle ddysgodd drwy chwarae gyda Band Pres Deiniolen. Wedi gadael yr ysgol, fe chwaraeodd gyda’r band ffync Derwyddon Dr Gonzo, ac y dyddiau hyn mae’n treulio’i benwythnosau yn chwarae gyda Band Pres Llareggub. Mae hefyd yn hoff o ddysgu offerynnau eraill, gan gynnwys y piano, banjo a’r trombon.

Yn aelod o dim codi’r to ers 2015, mae Berwyn wedi mwynhau gweithio gyda plant na fyddai wedi cael gwersi offerynnol fel arall, ac yn edrych ymlaen i barhau i wneud hynny yn y dyfodol.

LucyYn wreiddiol o Birmingham, mae Lucy yn byw yng Nghymru ers 1996. Daeth Lucy i Gymru i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi’n chwarae piano a chlarinét...ac wedi dysgu tenor horn gyda Chodi’r To! Ei phrif ddiddordeb yw cyflwyno cerddoriaeth i blant ifanc. Ymarferwr Dalcroze Eurhythmics a Kodaly ydy Lucy.  Mae hi’n hoffi helpu plant Codi’r To dysgu am gerddoriaeth wrth ganu, symud a chael llawer o hwyl!

Yn 2002 cafodd Lucy Ysgoloriaeth Deithio Winston Churchill i ymchwilio i faes addysg ryngweithiol yn America, Yr Almaen a Lwcsembwrg. Yn 2004 cafodd Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol “Cerddoriaeth yn y Blynyddoedd Cynnar (Kodaly)”. Cafodd Tystysgrif Dalcroze Eurhythmics yn 2018.  Ar hyn o bryd mae hi’n astudio ar gyfer Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol Kodaly “Primary Level 2”. 

Yn ogystal a gweithio gyda Chodi’r To, mae Lucy yn rhan o Dîm Addysg Ensemble Cymru. 

Ymunodd Lucy a phrosiect Codi’r To ym Medi 2016. Mae hi’n mwynhau bod yn rhan o brosiect ysbrydoledig ac yn rhannu mwynhad cerddoriaeth gyda’r plant.

IoloYn wreiddiol o Fangor, dechreuodd Iolo chwarae’r drymiau drwy cael gwersi yn yr ysgol uwchradd. Yn ystod yr amser yma ymunodd, a pherfformiodd hefo nifer o fandiau pres, bandiau symffonig, a cherddorfeudd lleol yn bennaf drwy Wasanaeth Ysgolion William Mathias. Drwy chwarae hefo’r grwpiau yma, a Band Pres Biwmaris, mae Iolo wedi perfformio ar rai o lwyfannau enwocaf Prydain, yn cynnwys yr Royal Albert Hall, a Birmingham Symphony Hall.

Ar ol gadael yr ysgol, fe aeth i astudio yn yr Academy Of Contemporary Music (ACM) yn Guildford, a graddiodd o’r cwrs Professional Music Performance yn 2011. Tra yno fe ddechreuodd fand “progressive metal” hefo cerddorion eraill o’r ACM, gan berfformio yn ardal Llundain a De Lloegr.

Symudodd yn ol i Fangor yn 2013 a dechreuodd weithio i Wasanaeth Ysgolion William Mathias. Yn yr Haf honno fe ddechreuodd ddysgu i chwarae cerddoriaeth Samba o dan Colin Daimond, ac ymunodd a’i fand Bloco Swn. Ers ymuno mae Iolo wedi bod yn perfformio yn rheolaidd hefo’r band Samba mewn nifer o wahanol ddigwyddiadau.

Yn 2014 ymunodd Iolo hefo Codi’r To fel tiwtor offerynnau taro. Mae’n mwynhau yn fawr iawn rhannu ei nifer o wahanol brofiadau a ddylanwadau cerddorol i ddysgu’r plant. Yn ogystal a helpu plant yr ysgolion, a phobl y cymunedau o’u cwmpas ddatblygu eu sgiliau rhyngbersonol, a sgiliau bywyd drwy gerddoriaeth.

OsianYmunodd Osian â Codi’r To yn nechrau 2020 er mwyn helpu i gydlynnu’r prosiect Cymunedau Cerdd.
Wedi iddo raddio gyda gradd Meistr mewn Cerddoriaeth o brifysgol Goldsmiths, Llundain, bu Osian yn trefnu a chydlynnu prosiectau celf a cherdd tra’n gweithio i amgueddfa Sir John Soane, Cerdd Gymunedol Cymru a Galeri Caernarfon.

Hefyd, fel cerddor aml-offerynnol, bu Osian yn perfformio am nifer o flynyddoedd mewn gwyliau ledled Prydain megis Glastonbury, Latitude, Radio 1 Big Weekend a Camden Crawl, fel rhan o sawl band a grwp, megis Yr Ods.

Nawr, wedi ymuno â chriw Codi’r To, mae Osian yn edrych ymlaen i gael bod yn rhan o brosiect mor gyffroes ac yn gobeithio y bydd ei brofiad blaenorol yn help i sicrhau llwyddiant mawr i’r prosiect.

Carys BowenPenodwyd Carys Bowen yn gydlynydd elusen Sistema Cymru - Codi'r To ym mis Rhagfyr 2013. Daw Carys yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin.  Bu'n astudio Llenyddiaeth Gymraeg a Llen y Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor ac ar ol graddio yn 1994 bu'n derbyn hyfforddiant fel Ymchwilydd Radio a Theledu ar gwrs hyfforddiant Cyfle.

Mae wedi byw yn ardal Caernarfon ers dros 25 mlynedd bellach yn gweithio fel ymchwilydd a chydlynydd cynhyrchu i amrywiol gwmniau teledu gan gynnwys, Cwmni Da, Tonfedd Eryri, Ffilmiau'r Nant a Telesgop.

Mae Carys yn falch iawn o'r cyfle i gael bod yn rhan o brosiect Codi'r To a phrofi'r effaith gadarnhaol mae cerddoriaeth yn ei gael ar blant a phobl ifanc, eu teuluoedd a'u cymunedau.


twittertwitterfacebook

Rhybudd Preifatrwydd
Rhif Elusen Gofrestredig 1159046
© 2021 Hawlfraint Codi'r To. Gwefan gan Delwedd