Hafan > Cefnogi > Local Giving

Local Giving

Logo Localgiving

Pwy yw Codi'r To?

Mae Codi'r To yn brosiect adfywio cymunedol sydd wedi'i ysbrydoli gan y rhaglen fyd-enwog El Sistema. Rydym yn cynnal sesiynau cerddoriaeth wythnosol yn Ysgol Glancegin, Bangor ac Ysgol Maesincla, Caernarfon i dros 500 o ddisgyblion, gan gynnwys clybiau ar ôl ysgol, clwb samba, perfformiadau cymunedol, cyngherddau Pen Blwydd blynyddol, clybiau gwyliau, cyngherddau amser te a chyfleoedd i ddisgyblion fwynhau perfformiadau gan gerddorion proffesiynol.

 

Pam oes angen Codi'r To?

Mae gan gerddoriaeth bŵer i drawsnewid bywydau ifanc. Prif nod Sistema Cymru Codi'r To yw creu newid cymdeithasol drwy gerddoriaeth. Mae prosiect Codi'r To yn herio amddifadedd, yn gwella disgwyliadau ac yn cefnogi'r cyfranogwyr wrth iddynt ddysgu credu yn eu gallu eu hunain a chydnabod eu potensial. Drwy gymryd rhan yn rheolaidd mewn cerddoriaeth o oedran ifanc ein nod ni yw gwella lefelau hyder, dyhead, balchder a hapusrwydd.

 

Ein dadansoddiad:

Mae gwerthusiad economaidd diweddar o Codi'r To gan Brifysgol Bangor yn datgelu bod gwerth y prosiect yn ymestyn ymhell y tu hwnt i chwarae offerynnau cerdd. Canfu'r adroddiad yma bod £6.69 yn cael ei greu mewn gwerth cymdeithasol am bob £1 sy'n cael ei buddsoddi yn y prosiect. Mae 98% o'r rhieni'n teimlo bod Codi'r To wedi bod o fudd i'w plentyn ac mae 92% wedi gweld gwelliant yn hyder eu plentyn.